#

 

Y Pwyllgor Deisebau | 23 Hydref 2018
 Petitions Committee | 23 October 2018
 
 
 ,Deiseb: Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall
 
  

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-840

Teitl y ddeiseb: Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall.

Testun y ddeiseb:

Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd drwy ei chyllidebau fesul llinell a chael gwared ar wariant gwastraffus er mwyn sicrhau ei bod yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn defnyddio Castell-nedd Port Talbot fel enghraifft drwy gydol y ddeiseb hon, am ein bod yn byw yno ac yn gweithio i CBSCNPT, ond gan ddeall bod pob awdurdod unedol yng Nghymru dan bwysau ariannol eithafol.

Rydym yn cytuno bod gan bob awdurdod rôl wrth gael gwared ar wariant gwastraffus, ond wrth ystyried darpariaeth gwasanaeth nawr, yr unig gwestiwn ym mhob awdurdod yw "A yw'n ddigon da?" yn hytrach nag "A yw'n arfer gorau?"; ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael gwared ar unrhyw wariant gwastraffus ac, erbyn hyn, mae yn y sefyllfa lle mae angen iddo ystyried cau gwasanaethau anstatudol megis parciau a gwasanaethau hamdden, mewn gwrthwynebiad uniongyrchol i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Dim ond yr esgyrn sydd ar ôl erbyn hyn.

Erbyn hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru wario'n glyfrach, nid gwario llai.  Heb wariant clyfar gan Lywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau allweddol ein cymuned yn cael eu cwtogi neu eu colli. Bydd rhagor o doriadau cyllidebol yn dinistrio swyddi, gwasanaethau a chymunedau lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gyflogwr pwysig a bydd rhagor o ostyngiad mewn cyllid yn cael effaith enfawr ar yr economi leol fel ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn un o'r cynghorau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae angen cyllid ychwanegol arno i gynnal y gwasanaethau a ddarperir i'r rhai mwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r prif gyflogwr yn yr ardal a bydd unrhyw ostyngiad mewn cyllid yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth a'r gallu i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod yn gynaliadwy ac aros yn fewnol. Bydd toriadau cyllidebol yn arwain at fwy o amddifadedd yn ein cymunedau a cholli swyddi'n orfodol gyda gwasanaethau'n diflannu am byth.  

Mae diffyg cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn arwain at ddarpariaeth gwasanaeth sy'n aflonyddgar, yn gostus ac o ansawdd gwael; colli cyfleoedd cyflogaeth, telerau ac amodau cyflogeion ac, yn bwysicaf oll, golli atebolrwydd democrataidd os caiff gwasanaethau eu colli i'r sector preifat neu'r trydydd sector a disbyddu cyllidebau wrth gefn. Rydym yn cytuno â gweledigaeth Llywodraeth Cymru y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, llawn addewid a chynaliadwy sydd â chysylltiadau da, gydag economi leol gref ac ansawdd bywyd da. Er mwyn i'r weledigaeth hon lwyddo, rhaid i ni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn sicrhau diogelwch a llesiant ein preswylwyr ledled Cymru gyda chanlyniadau gwell i bawb.

 

Mae dyrannu cyllid yn ddoethach yn hanfodol er mwyn sicrhau model gofal cymdeithasol llewyrchus ac integreiddiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.  Mae angen dyfarnu cyllid trawsnewidiol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau nad oedi wrth drosglwyddo gofal o ddarpariaethau ysbyty yw'r canlyniad i breswylwyr sy'n agored i niwed ac yn aml yn fregus.  Rhaid i Lywodraeth Cymru ddod i'r penderfyniad na ddylai awdurdodau unedol fod y berthynas dlawd wrth ddyrannu pwrs y wlad ac ni ddylid disgwyl iddynt roi deddfwriaeth ddrud ar waith heb i'r cyllid priodol gael ei ddyfarnu.

 

 

Y cefndir

Caiff y rhan fwyaf o'r cyllid refeniw cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cynnal Refeniw a thrwy ardrethi busnes a ailddosberthir. Mae hyn yn cyfateb i tua 75 y cant o gyllideb awdurdod lleol. Caiff y gweddill ei gasglu drwy'r dreth gyngor a ffioedd a ffrydiau incwm eraill. Gall awdurdodau unedol hefyd gael gafael ar grantiau o amrywiaeth o ffynonellau, yn ogystal ag o'u cronfeydd wrth gefn.

Mae'r setliad llywodraeth leol dros dro ar gyfer 2019-20 yn dangos y bydd Cyllid Allanol Cyfun (CAC), sef y cyllid refeniw cyffredinol sydd ar gael i awdurdodau lleol, yn gostwng 0.3 y cant o'i gymharu â 2018-19  (wedi'i addasu).

Disgwylir mai cyfanswm y CAC ar gyfer 2019-20 fydd £4.2 biliwn, gostyngiad o £12.3 miliwn.. Mae CAC yn cynnwys Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig wedi’u Hailddosbarthu ac, er bod gostyngiad cyffredinol, disgwylir y bydd Ardrethi Annomestig wedi’u Hailddosbarthu yn cynyddu ychydig o £997.5 miliwn i £1.0 biliwn.

O’r 22 o awdurdodau lleol, bydd 7 yn cael cynnydd (arian parod) yn 2019-20. Caerdydd fydd yn cael y cynnydd mwyaf, sef 0.4 y cant.  Bydd y 15 awdurdod lleol sy’n weddill yn cael gostyngiad mewn cyllid ac, o’r 15 hynny, bydd 5 yn cael cyllid atodol (y cyfeirir ato fel “cyllid gwaelodol”) er mwyn sicrhau na fydd cyllid yn gostwng o fwy nag 1 y cant. Mewn termau real, bydd pob awdurdod lleol yn cael toriad mewn cyllid.

 

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag effaith waethaf cyni, ac y bydd yn parhau i wneud hynny. Aiff yn ei flaen i nodi y bydd cyllideb Cymru 5 y cant yn is mewn termau real yn 2019-20 (ar sail tebyg i debyg), nag yr oedd yn 2010-11. Mae hyn yn cyfateb i £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai gwariant wedi cadw i fyny gyda'r twf mewn CMC ers 2010-11, byddai gan Lywodraeth Cymru £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yn 2019-20, dros 20 y cant yn uwch o'i gymharu â gwir gyllideb Llywodraeth Cymru.

Wrth osod cynlluniau dangosol ar gyfer 2019-20 pan gawsant eu cyhoeddi y llynedd, mae Mr Drakeford yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod hyn yn cynrychioli toriad ariannol i lywodraeth leol ar adeg pan mae awdurdodau yn wynebu pwysau o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio, cyflogau a chwyddiant o gyfeiriadau eraill. Yn y cyd-destun hwn, y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £60 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd i lywodraeth leol yng Nghyllideb derfynol 2018-19.

Cyhoeddwyd cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar 2 Hydref, a chyhoeddwyd y setliad llywodraeth leol ar 9 Hydref. Cyhoeddir y cynlluniau gwario manwl ar 23 Hydref.

Yn Naratif y Gyllideb Ddrafft Amlinellol, mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn nodi yn ei Ragair:

Yn ystod hanner cyntaf tymor y Cynulliad hwn, rwyf wedi cymryd agwedd lem tuag at gynllunio’r gyllideb, gan ddefnyddio Cronfa Wrth Gefn newydd Cymru i yrru cymaint o 2 refeniw ymlaen ag sy’n bosibl, mewn ymgais i wneud iawn am unrhyw doriadau cyni pellach.  Yn ogystal â defnyddio rhywfaint o gyllid Cronfa Wrth Gefn Cymru eleni, byddwn unwaith eto’n buddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth - yn GIG Cymru; mewn llywodraeth leol; mewn addysg ac mewn gwasanaethau cymdeithasol.

Mae tri o'r pedwar maes blaenoriaeth yn benodol i wasanaethau llywodraeth leol. Aiff yr Ysgrifennydd Cyllid yn ei flaen i nodi:

Drwy ein buddsoddiadau ar y cyd, mae hyn yn setliad gwell na’r disgwyl ar gyfer llywodraeth leol gan adlewyrchu ein blaenoriaeth i  amddiffyn gwasanaethau rheng flaen yn erbyn effeithiau gwaethaf cyni.

Mewn llythyr at Arweinwyr Awdurdodau Lleol yng Nghymru mae Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn esbonio bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu awdurdodau, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn:

Byddwn yn parhau i’w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf y cyni cyllidol. Yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU ar 29 Hydref, os digwydd i Lywodraeth Cymru gael adnoddau ychwanegol, Llywodraeth Leol fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth.

 

Safbwynt Llywodraeth Leol

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio ynghylch yr heriau a'r pwysau cynyddol ar eu gwasanaethau, ac maent wedi bod yn destun gostyngiadau sylweddol yn eu cyllidebau dros y blynyddoedd diwethaf.  

Yn ei datganiad diweddaraf i'r wasg ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng Nghymru, nododd CLlLC fod cyllid gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol wedi crebachu dros £1 biliwn ers y cyni, ac mae bellach yn rhybuddio ynghylch canlyniadau difrifol i gyllidebau ysgolion, a allai fod yn gyfatebol i golli nifer sylweddol o athrawon a chynorthwywyr ysgol.  Aiff ymlaen drwy nodi nad yw'r setliad, yn syml, yn darparu digon o adnoddau i ariannu gwasanaethau lleol, yn enwedig o'u cymharu â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu rheoli'n uniongyrchol '.

Yn ddiweddar, cynhaliodd CLlLC arolwg gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn ymwneud â'u harian. Mae'r dystiolaeth, meddai, yn dangos bod isadeiledd gwasanaeth craidd rhai o'r cymunedau tlotaf yng Nghymru o dan fygythiad fel na fu erioed o'r blaen. Nododd un ymateb feysydd o ran y penderfyniadau y gallai fod yn rhaid i'r awdurdod eu gwneud yn y flwyddyn ganlynol i gysoni ei gyllideb. Roedd y rhain yn cynnwys, ymysg eraill:

§    Gostyngiad sylweddol i'r gefnogaeth i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg.

§    Cau'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd.

§    Cau canolfannau amwynder dinesig a chanolfannau ailgylchu.

§    Gostyngiad difrifol i'r gweithgarwch glanhau strydoedd.

§    Gweithredu gostyngiadau difrifol o ran cymorth i'r henoed.

§    Cyfyngu gwasanaethau'n sylweddol o ran y rheiny sydd ag anableddau dysgu difrifol.

Mae'n debyg bod y themâu hyn yn gyffredin trwy gydol yr ymatebion i'r arolwg yn ôl CLlLC.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.